Итак, начнём. Читаем, переводим, разбираем грамматику :)
1. Y Fôr-forwyn
Un bore braf ym mis Medi ers llawer blwyddyn yn ôl aeth llanc ieuanc o Ben Cemes allan i bysgota mewn cwch. Pergrin oedd ei enw.
Pan oedd yn rhwyfo yn araf heibio Ogof Cemes gwelai fôr-forwyn yn eistedd mewn agen yn y graig. Yr oedd wedi clywed sôn am fôr-forwyn lawer gwaith, ond nid oedd wedi gweled un erioed o'r blaen.
Yr oedd Pergrin wedi dychryn ychydig ac yn methu gwybod beth i'w wneud.
"Os âf yn agos ati", meddai, "efallai mai fy hudo dan y dŵr a wna." Ond er hynny i gyd ni fedrai droi yn ôl. Ac wedi aros ychydig aeth yn nês ati.
Yn awr yr oedd yn ddigon agos i'w gweled yn iawn, ac yr oedd yn sicr mai dyma'r eneth dlysaf a welsai erioed. Yr oedd yn edrych yn ieuanc iawn, a chanddi wallt hir modrwyog yn disgyn dros ei hysgwyddau. Yn ei llaw yr oedd ganddi grib aur hardd. Ac o'i blaen yr oedd llyn o ddŵr llonydd, a gwelai Pergrin yn awr mai cribo ei gwallt yr oedd. Ac yr oedd yn eistedd ar gwrr y llyn er mwyn gweled ei llun yn y dŵr.
Nid oedd hi wedi gweled Pergrin eto gan ei bod yn syllu i'r dŵr, ac aeth yntau ychydig yn nês ati. Yn awr clywai hi'n mwmian canu. A chyn gynted ag y clywodd Pergrin hi'n canu, dyna'r rhwfau'n aros a'r cwch yn sefyll yn ei unfan. Ar hynny cododd hithau ei phen ac edrychodd i gyfeiriad y cwch.
Cyn gynted ag y canfu hi ef dyna hi'n dechreu canu'n uwch. Nid oedd Pergrin erioed wedi clywed y fath ganu peraidd, ac yr oedd wedi ei swyno'n fawr. Ac nid oedd arno eisiau mynd o sŵn y fath ganu melys â hwnnw.
Ymhen ychydig dyna hi'n codi ac yn llithro dros y graig, ac yn neidio i'r dŵr.
"Wel, dyna'r eneth dlysaf a welais i erioed", ebe Pergrin wrtho'i hun, "ond dyna fi wedi ei cholli hi."
Ond yn y man dacw hi'n codi ei phen o'r dŵr wedyn ac yn nofio'n araf at y cwch.
Yr oedd Pergrin yn awr yn methu gwybod beth i'w wneud. Yr oedd wedi clywed y byddai'r fôr-forwyn yn hudo rhai i'r môr.
"Os na ddywedaf rywbeth wrthi, mae hi'n sicr o droi'r cwch a'm denu dan y dŵr", ebe Pergrin. "Ond beth yn y byd a gaf fi i'w ddweyd?"
Cyn iddo gael amser i feddwl llawer, yr oedd y fôr-forwyn yn ymyl y cwch. Cododd ei phen o'r dŵr a gosododd ei llaw wen esmwyth ar ymyl y cwch. A chan wenu'n siriol arno meddai: "Pergrin, Pergrin, Pergrin, a gaf fi ddod atat i'r cwch?"
A chyn iddo gael amser i ateb llamodd dros ochr y cwch ac eisteddodd yn y pen ôl.
Syllai Pergrin yn syn arni a cheisiodd siarad. Ond ni fedrai ddweyd gair. Yr oedd yn ei hedmygu'n fawr gan ei bod mor hardd a lluniaidd.
Ymhen ychydig dyma hi'n gwenu'n siriol arno wedyn ac yn dechreu canu fel o'r blaen, a dechreuodd Pergrin rwyfo'r cwch drachefn. Ac yn awr llithrai'r cwch yn esmwyth fel pluen dros y tonnau. Nid oedd raid iddo ond prin gyffwrdd y rhwyfau yn y dŵr.
Yn awr yr oedd Pergrin yn ei charu â'i holl galon, ac yn credu y deuai hi adref gydag ef i fod yn wraig iddo.
Rhwyfai'n gyflymach nag erioed. Yr oedd mewn brys mawr i fwrw ei rwydau er mwyn cael mynd adre gyda'r fôr-forwyn.
Ond cyn ei fod wedi mynd ymhell iawn oddiwrth y creigiau dyna hi'n peidio canu wedyn. Ac ymhen ychydig dechreuodd wylo'n chwerw dost. Nid oedd Pergrin wedi gweled neb erioed yn wylo fel hon. Yr oedd ei dagrau yn llifo fel afon dros ei gruddiau, a hithau'n awr yn erfyn yn daer am gael mynd yn ôl at ei chwiorydd o dan y tonnau.
"Pergrin, Pergrin, Pergrin," ebe hi, "os câf fynd yn ôl at fy nheulu, fe roddaf dair gwaedd i'th achub pan fo fwyaf dy berigl."
Yr oedd Pergrin eto yn methu gwybod beth i'w wneud. Nid oedd am ei cholli'n awr ac yntau'n ei charu hi gymaint. Ond yr oedd wedi clywed sôn am ddial y môr-forwynion.
"Efallai", meddai wrtho'i hunan, "mai troi fy nghwch a fy moddi a wnant eto os gwrthodaf adael iddi hi fyned yn ôl."
Felly, er gofid mawr i'w galon, gadawodd iddi ddychwelyd at ei theulu o dan y dŵr. Ac ar hynny, llamodd y fôr-forwyn dros ochr y cwch, a diflannodd o'i olwg i ganol y môr.
...
Aeth misoedd lawer heibio cyn iddo ei gweled drachefn. Ni soniodd air am dani wrth neb. Nid oedd yn deall ystyr ei geiriau yn iawn, ac nid oedd am i neb wybod iddo fod yn siarad gyda'r fôr-forwyn.
Yr oedd Pergrin yn mynd allan i bysgota bob dydd fel arfer, ac aeth heibio'r un agen yn y graig lawer gwaith. Ond er edrych ac edrych nid oedd dim golwg o'r fôr-forwyn yn unman.
"Nid oedd hynny ond esgus i gael mynd yn ôl i'r môr", ebe Pergrin. "Ni welaf mo honi byth mwy. Fe'm twyllodd yn iawn."
...
Un prynhawn braf ymhen rhai blynyddoedd yr oedd Pergrin yn pysgota fel arfer, ac yr oedd y môr yn hollol lyfn a thafel. Nid oedd dim arwydd storm yn unman. Yr oedd llawer iawn o bysgotwyr eraill ymhell yng nghanol y môr, ac nid oedd nac ofn na phryder ar neb.
Ond yn sydyn dyma'r fôr-forwyn yn codi ei phen o'r môr yn ymyl cwch Pergrin, ac yn gweiddi mewn llais uchel:
"Pergrin, Pergrin, Pergrin, côd dy rwydau, côd dy rwydau, côd dy rwydau."
Ac yn y fan diflannodd o'i olwg o dan y tonnau.
Ufuddhaodd Pergrin ar unwaith. Cododd ei rwydau a rhwyfodd am y lan. Yr oedd y môr yn berffaith dawel o hyd. Ond cyn gynted â bod Pergrin wedi mynd heibio i Ogof Cemes dyma storm yn dechreu codi o'r môr.
Yn awr rhuai y gwynt yn groch, a chodai y tonnau yn uchel. Ond erbyn hyn yr oedd cwch Pergrin yn y lan.
Yr oedd llawer iawn o gychod eraill ar y môr y diwrnod hwnnw, ond ni ddaeth dim un o honynt i'r lan. Nid oedd neb ond Pergrin wedi clywed gwaedd y fôr-forwyn.
Конец первой сказки :)
Может, начинаем с того, что учимся читать? И, в частности, выбираем диалект?
Roman, это т.н. "литературный валлийский" (Cymraeg llenyddol) :yes:
присоединяешься?
http://xixona.dlsi.ua.es/%7Efran/welsh/ (Welsh morphological analysis)
Цитата: Lei Ming Xia (reloaded) от октября 26, 2008, 06:58
Roman, это т.н. "литературный валлийский" (Cymraeg llenyddol) :yes:
присоединяешься?
Если это "литературный" - то зачем он мне сдался? :donno: Сами валлийцы его не знают. "Cymraeg Byw" подавай! :=